Mae Joe wedi bod yn gweithio i Lywodraeth yr Alban ers 2004. Mae ei rolau yn cynnwys bod yn Gyfarwyddwr Cyffredinol dros Strategaeth a Materion Allanol a Chyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Chyfiawnder.
- Mae ei brofiad yn cynnwys:
- Cyfarwyddwr, Cymunedau Mwy Diogel
- Cyfarwyddwr, Dysgu Cynnar a Gofal Plant
- Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Gwaith Teg
- Dirprwy Gyfarwyddwr, Creu Dyfodol Cadarnhaol (Plant a Theuluoedd)
- Pennaeth Lleihau Aildroseddu
- Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
Yn gynharach yn ei yrfa, roedd Joe yn ddiplomydd yn Swyddfa Dramor a Chymanwlad Llywodraeth y DU a oedd yn cynnwys swyddi yn Efrog Newydd a Pharis.
Mae Joe yn briod gyda thri o blant ac yn byw yng Nghaeredin. Mae Joe yn credu’n gryf ym mhotensial llywodraeth yn yr Alban i gyflawni canlyniadau da a gwella bywydau pobl.
