Jeremy Pocklington CB

Jeremy Pocklington CB

Ysgrifennydd Parhaol, y Weinyddiaeth Amddiffyn

Jeremy Pocklington yw’r Ysgrifennydd Parhaol yn y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD).

Cyn hynny, roedd Jeremy yn Ysgrifennydd Parhaol yn yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ) rhwng mis Chwefror 2023 a mis Tachwedd 2025.

Cyn hyn, roedd yn Ysgrifennydd Parhaol yn yr Adran Lefelu i Fyny, Tai a Chymunedau (mis Medi 2021 i fis Chwefror 2023), ac yn Ysgrifennydd Parhaol yn y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (mis Mawrth 2020 i fis Medi 2021).

Bu’n Gyfarwyddwr Cyffredinol, Tai, Cynllunio a Diogelwch Adeiladau yn y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol rhwng mis Awst 2018 a mis Mawrth 2020. Cyn hynny, roedd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol, Ynni a Diogelwch yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) ac yn yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) rhwng mis Chwefror 2015 a mis Awst 2018.

Cyn ymuno â DECC, Jeremy oedd Cyfarwyddwr yr Uned Menter a Thwf yn Nhrysorlys EF a oedd yn gyfrifol am bolisïau ar dwf, busnes a seilwaith ac am gynghori ar wariant cyhoeddus ar gyfer BIS, DfT, DECC a DEFRA. Rhwng 2009 a 2012 bu’n Gyfarwyddwr yr ysgrifenyddiaeth Economaidd a Domestig yn Swyddfa’r Cabinet. Ymunodd â’r Trysorlys ym 1997 ac mae wedi bod mewn amrywiaeth o swyddi ar reoleiddio ariannol, treth, polisi cyllidol a chyllid corfforaethol yn ogystal â gweithio fel ysgrifennydd preifat cynorthwyol i ddau Brif Ysgrifennydd.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.