Apolitical yw rhwydwaith gweision cyhoeddus mwyaf y byd. Ein cenhadaeth yw helpu i wneud llywodraethau’n fwy craff. Mae gennym fwy na 250,000 o aelodau cymunedol mewn 160 o wledydd, gan gynnwys 90,000 ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae ein haelodau’n amrywio o weinidogion ac uwch arweinwyr, i gydweithwyr ymroddedig sy’n darparu gwasanaethau’n uniongyrchol i ddinasyddion. Bob dydd, mae miloedd o weision cyhoeddus ledled y byd yn defnyddio Apolitical i rannu syniadau, datrys problemau ac adeiladu eu sgiliau.
Mae Apolitical wedi’i leoli yn y DU ac rydym yn falch o fod yn bartner dysgu Campws Llywodraeth cymeradwy ar gyfer gweision sifil y DU. Ewch i’n stondin i ddarganfod cyfleoedd dysgu o’r radd flaenaf sy’n canolbwyntio ar eich twf gyrfa personol, o ysgrifennu’n glir ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd i ddefnyddio data i wneud penderfyniadau gwell. Boed yn ddigwyddiadau rhyngweithiol, cyrsiau neu gymunedau ar-lein, mae holl ddysgu Apolitical wedi’i gynllunio a’i gyflwyno’n gyfan gwbl ar gyfer gweision cyhoeddus.
