Susannah Storey yw’r Ysgrifennydd Parhaol yn yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Cyn hynny, roedd Susannah yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Technolegau Digidol a Thelathrebu yn yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) a Chyfarwyddwr Cyffredinol Polisi Digidol a’r Cyfryngau yn yr Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ar y pryd.
Cyn y rôl hon, roedd Susannah yn Gyfarwyddwr Cyffredinol yn yr Adran Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Cyn ymuno â DExEU, roedd ganddi nifer o rolau cyfarwyddwr yn BEIS, DECC ac UK Government Investments.
