Crawford Falconer yw Ail Ysgrifennydd Parhaol yr Adran Busnes a Masnach. Mae hefyd yn bennaeth y proffesiwn trafod masnach o fewn y Gwasanaeth Sifil. Cyn hynny roedd yn Ail Ysgrifennydd Parhaol yr Adran Masnach Ryngwladol.
Mae Crawford wedi treulio dros 25 mlynedd yn gweithio ar bolisi masnach a thrafodaethau masnach y tu mewn a’r tu allan i lywodraeth. Mae wedi gweithio mewn nifer o swyddi proffil uchel gan gynnwys fel Prif Drafodwr a Chynghorydd Seland Newydd. Yn fwyaf diweddar, gwasanaethodd fel Athro Cadwyni Gwerth Byd-eang a Masnach ym Mhrifysgol Lincoln, Seland Newydd.
- Mae rolau blaenorol Crawford yn cynnwys:
- Dirprwy Ysgrifennydd (Is-Weinidog) yng Ngweinyddiaeth Materion Tramor a Masnach Seland Newydd
- Llysgennad Seland Newydd a Chynrychiolydd Parhaol i Sefydliad Masnach y Byd (WTO) Geneva
- Cadeirydd trafodaethau DOHA y WTO ar amaethyddiaeth a chotwm
- Cydlynydd strategaeth fasnach ac uwch swyddog WTO dros Weinyddiaeth Dramor a Masnach Seland Newydd
- Arwain prosiectau masnach yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygu Economaidd (OECD) ar wasanaethau a gwerth ychwanegol masnach
- Cyfarwyddwr masnach amlochrog yng Ngweinyddiaeth Fasnach Seland Newydd
- Astudiaethau Polisi Seland Newydd
Astudiodd Crawford ym Mhrifysgol Victoria, Wellington, Seland Newydd, ac Ysgol Economeg Llundain. Mewn rôl bersonol, mae’n gyn-Gadeirydd Pwyllgor Masnach yr OECD, Pwyllgor Cymorthdaliadau WTO a Phwyllgor Cenedlaethol Pacific Economic Cooperation Council. He has been a judge on over 15 international trade disputes brought before the WTO, including recently on long-running Boeing-Airbus dispute. Mae Crawford wedi ysgrifennu sawl cyhoeddiad, gan gynnwys (gyda Syr Frank Holmes) “Open Regionalism, NAFTA, CER and a Pacific Basin Initiative”.
Mae Crawford yn ddinesydd deuol o’r DU a Seland Newydd.
