Mae Madeleine Alessandri wedi bod yn Gadeirydd y Pwyllgor Cudd-wybodaeth ar y Cyd ers 1 Gorffennaf 2023. Roedd Madeleine yn Ysgrifennydd Parhaol ar gyfer Swyddfa Gogledd Iwerddon rhwng 2020 a 2023. Cyn hynny roedd hi’n Ddirprwy Gynghorydd Diogelwch Cenedlaethol y DU a Chynghorydd y Prif Weinidog ar Wydnwch a Diogelwch Cenedlaethol. Ymunodd â gwasanaethau’r llywodraeth ym 1988 ac mae wedi bod mewn amrywiaeth eang o swyddi yn y Gwasanaeth Diplomyddol ac mewn Diogelwch Cenedlaethol yn y DU a thramor.
