Penodwyd Dr Andrew Goodall i rôl Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2021 ac mae’n arwain Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru wrth gyflawni blaenoriaethau Prif Weinidog Cymru ac yn gweithredu fel Prif Swyddog Cyfrifyddu Llywodraeth Cymru. Cyn hyn bu’n Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, swydd a gafodd ers mis Mehefin 2014.
Mae Dr Goodall wedi bod yn Brif Weithredwr y GIG yng Nghymru ers 16 mlynedd. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, swydd a gafodd o sefydlu’r Bwrdd Iechyd ym mis Hydref 2009 tan 2014 ar ôl ad-drefnu’r GIG i fodel integredig y Bwrdd Iechyd.
Yn ystod y 30 mlynedd o’i yrfa yn y GIG, mae Dr Goodall wedi bod mewn swyddi cynllunio a gweithredol ar draws nifer o sefydliadau’r GIG ledled De Cymru yn ogystal â rolau cenedlaethol. Mae ganddo feysydd penodol o ddiddordeb mewn gwella diogelwch cleifion, ansawdd a phrofiad cleifion; gweithio mewn partneriaeth a chydweithio ar draws Gwasanaethau Cyhoeddus; a darparu gwasanaethau rheng flaen drwy wella gwasanaethau a moderneiddio.
Mae gan Dr Goodall radd yn y gyfraith o Brifysgol Essex a PhD mewn Rheoli Gwasanaethau Iechyd o Ysgol Busnes Caerdydd. Dyfarnwyd CBE i Dr Goodall yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2018 am ei wasanaethau i’r GIG a gwasanaethau cyhoeddus.
