Clive Maxwell yw Ysgrifennydd Parhaol Dros Dro ar gyfer yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ). Cyn hynny, roedd yn Ail Ysgrifennydd Parhaol rhwng mis Chwefror 2023 a mis Tachwedd 2025.
Roedd yn Ail Ysgrifennydd Parhaol yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) o fis Tachwedd 2022 i fis Chwefror 2023.
Roedd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol, ‘High Speed Rail Group’ yn yr Adran Drafnidiaeth (DfT) rhwng 2017 a 2022.
Arweiniodd waith ar newidiadau i bolisi ynni rhwng 2014 a 2017, gan oruchwylio nifer o brosiectau mawr a diwygiadau polisi fel Cyfarwyddwr Cyffredinol yn yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd ac yna yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.
Roedd ganddo nifer o rolau uwch yn y Swyddfa Masnachu Teg (OFT) rhwng 2009 a 2014, gan gynnwys Prif Weithredwr rhwng 2012 a 2014.
Cyn yr OFT, bu Clive yn gweithio i Drysorlys EF rhwng 1992 a 2009, gan gynnwys ymateb i’r argyfwng ariannol rhwng 2007 a 2009 fel Cyfarwyddwr, Sefydlogrwydd Ariannol.
