Mae UK Boardroom Apprentice yn rhaglen ddysgu, datblygu a lleoliad bwrdd unigryw 12 mis a noddir gan Lywodraeth y DU. Galluogi’r rhai sydd yn awyddus i wasanaethu ar fwrdd cyhoeddus neu drydydd sector i ddysgu ac ennill profiad.
Mae’n ceisio galluogi amrywiaeth ehangach o unigolion i chwarae eu rhan o fewn ystafelloedd y bwrdd, gan ganiatáu i’r rhai heb brofiad bwrdd wella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth trwy ddysgu a chefnogaeth fanwl.
Crëwyd Boardroom Apprentice i gyflawni amrywiaeth, creu newid, a gwireddu dyheadau. Mae ein gweledigaeth yn syml – i bontio’r bwlch rhwng dyhead a realiti.
Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y cyfle i ymuno â bwrdd lletyol am flwyddyn i ddysgu sut y gallant ddod â safbwyntiau newydd a meddwl amrywiol i ystafelloedd bwrdd ledled y DU.
Mae’r rhaglen yn agored i unrhyw un dros 18 oed heb unrhyw brofiad bwrdd, yn agored i bob gallu, pob cefndir.
Boardroom Apprentice | Ymunwch
