Mae 2025 yn nodi degfed pen-blwydd Revenue Scotland o gasglu a rheoli trethi datganoledig yr Alban. Ymunwch â thîm Revenue Scotland i ddysgu mwy am hanes y sefydliad a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Darganfyddwch drethi maen nhw’n eu casglu a’u rheoli ar hyn o bryd – Land and Buildings Transaction Tax (LBTT) a Scottish Landfill Tax (SLfT) – yn ogystal â’r gwaith cydweithredol y maent yn cymryd rhan ynddo i baratoi a chasglu a rheoli trethi datganoledig ychwanegol sydd ar y gweill.
Byddwch hefyd yn cael y cyfle i brofi eich gwybodaeth am y dirwedd dreth ddatganoledig yn yr ymddangosiad cyntaf cyffrous o “Revenue Scotland: The Board Game”. A fyddwch chi’n cyrraedd brig y bwrdd arweinwyr ac yn ennill y teitl o hyrwyddwr treth datganoledig?
