HMCTS – Adran cyfleoedd

HMCTS – Adran cyfleoedd

Rydym yn rhan o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy’n gyfrifol am weinyddu llysoedd a thribiwnlysoedd troseddol, sifil a theuluol yng Nghymru a Lloegr. Gan weithio gyda’r farnwriaeth annibynnol ac ystod o bartneriaid cyfiawnder rydym yn darparu mynediad teg ac effeithlon at gyfiawnder i bawb, gan gynnwys rhai o’r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas.

Gyda 18,000 o staff ar draws 350 o leoliadau, y llynedd fe wnaethom ddelio â dros 4 miliwn o achosion, cynnal dros 2.3 miliwn o wrandawiadau ac ateb tua 2 filiwn o alwadau.

Rydym wedi llwyddo i weithredu rhaglen ddiwygio nodedig, gan chwyldroi mynediad at gyfiawnder i bawb gydag atebion digidol arloesol a gwasanaethau modern.

Ewch i’n stondin i ddarganfod mwy am ein gwaith hanfodol a’n cyfleoedd gyrfa amrywiol, gan gynnwys dod yn gynghorydd cyfreithiol neu ynad.

P’un a oes gennych ddiddordeb mewn gweithrediadau rheng flaen, arloesi digidol, neu gefnogi pobl fregus drwy’r system, bydd ein tîm yn dangos sut mae HMCTS yn llunio dyfodol y system gyfiawnder.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.