Y llynedd, lansiodd y Heywood Foundation, elusen sy’n anrhydeddu Syr Jeremy Heywood, Heywood Quarterly – cyhoeddiad newydd sy’n dathlu arloesedd ac arfer gorau mewn datblygu a chyflawni polisi cyhoeddus ar draws y sector cyhoeddus. Mae’r awduron wedi cynnwys Ysgrifennydd y Cabinet blaenorol Simon Case, Pennaeth Proffesiwn Polisi ac Ysgrifennydd Parhaol DEFRA Tamara Finkelstein, a Chyfarwyddwr Gwyddor Data Downing Street, Dr Laura Gilbert. Mae’r cyhoeddiad wedi cael derbyniad da ac mae wedi cael sylw yn y Guardian, Politico a The Rest is Politics. Gallwch ddarganfod mwy am y Quarterly ar ein gwefan.
Dewch i stondin Heywood Quarterly lle byddwn yn rhannu rhai o’n herthyglau sy’n dathlu ac yn hyrwyddo gwaith effeithiol gweision sifil. Byddwch yn cael cyfle i leisio eich barn drwy awgrymu a phleidleisio ar syniadau ar gyfer erthyglau i’w cynnwys yn ein rhifynnau yn y dyfodol.
