Y Swyddfa Eiddo Deallusol yw corff swyddogol Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am hawliau eiddo deallusol (IP) gan gynnwys patentau, dyluniadau, nodau masnach a hawlfraint.
Mae IP yn sail i arloesedd busnesau ac economi’r DU, ac rydym yn darparu cefnogaeth i fusnesau, crewyr ac arloeswyr sy’n caniatáu iddynt dyfu a meithrin ymdrechion arloesol pellach.
Bydd ein stondin yn y Gwasanaeth Sifil yn Fyw yn canolbwyntio ar sut rydym yn diogelu deiliaid hawliau IP ac yn gweithio’n rhagweithiol gyda’r Heddlu, Llu’r Ffiniau, Safonau Masnach a phartneriaid ehangach yn y frwydr yn erbyn Troseddau IP.
Bydd gan ein tîm Gorfodi ystod o enghreifftiau ffisegol niwed uchel o gynhyrchion sy’n torri IP (a adnabyddir yn well fel nwyddau ffug) a bydd ganddynt gyngor ymarferol ar y peryglon a gyflwynir. Bydd y tîm recriwtio IPO hefyd yn bresennol i hyrwyddo’r ystod o yrfaoedd sydd ar gael yn yr IPO.
