Gwasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig (UKAS) yw’r
Corff Achredu Cenedlaethol ar gyfer y DU, fel y’i penodwyd gan Lywodraeth y DU. Ei rôl yw asesu bod sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau asesu cydymffurfiaeth (ardystio, profi, arolygu, graddnodi a gwirio) yn bodloni safon berfformiad angenrheidiol. Mae achrediad UKAS yn dangos cymhwysedd, didueddrwydd a gallu perfformiad sefydliad yn erbyn safonau a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.ukas.com
