Dywedwch wrthym unwaith yw’r gwasanaeth hysbysu marwolaeth trawslywodraethol, sy’n lleihau’r straen ar ddinasyddion wrth ddelio â phrofedigaeth.
Yn y Gwasanaeth Sifil yn Fyw byddwch yn gallu siarad ag aelodau o’r tîm bach sy’n gweinyddu gwasanaeth sy’n rhychwantu holl gynghorau tir mawr y DU, sawl adran llywodraeth ganolog, a chyrff pensiwn y sector cyhoeddus.
Bydd cyngor ar gael i helpu i gyfeirio defnyddwyr at y cymorth profedigaeth gywir ochr yn ochr â’r cyfle i drafod sut y gallai Dywedwch wrthym unwaith fod o fudd i’ch maes gwaith eich hun. Bydd y tîm yn barod i dywys mynychwyr trwy’r daith Dywedwch wrthym unwaith gydag arddangosiadau ar-lein a thaflenni i gefnogi gweision sifil wrth gynorthwyo cwsmeriaid a chydweithwyr sy’n wynebu profedigaeth.
