Ewch i stondin Cyfarwyddiaeth Dadansoddi (AD) Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) i glywed am rôl dadansoddi mewn polisi tramor a datblygu. Mae gennym sgiliau arbenigol mewn Dadansoddi ac Awtomeiddio, Gwyddor Ymddygiadol, Gwyddor Data, Economeg, Gwerthuso, Cudd-wybodaeth Ffynhonnell Agored, Ystadegau, a Dadansoddi Cudd-wybodaeth, ac yn eu cyfuno i ddarparu dadansoddiad amserol o ansawdd uchel ar faterion rhyngwladol, wrth adeiladu’r diwylliant a’r galluoedd y bydd eu hangen ar yr FCDO ar gyfer y dyfodol. Dewch draw i gwrdd â chynrychiolwyr o gymuned ddadansoddol yr FCDO.
Dysgwch am sut rydym yn cymhwyso data a dadansoddiad arloesol i faterion polisi tramor a datblygiad.
Dysgwch am rôl gwerthuso mewn datblygiad rhyngwladol a diplomyddiaeth.
Gwrandewch ar sut mae’r FCDO yn gweithio gyda chymuned ddadansoddol ehangach y Llywodraeth a thrafodwch sut y gallwn gynyddu cydweithio.
