Byrddau Monitro Annibynnol

Byrddau Monitro Annibynnol

Ydych chi’n chwilio am gyfle gwirfoddol unigryw?

Mae Byrddau Monitro Annibynnol (IMBs) yn cynnwys dros fil o wirfoddolwyr di-dâl sy’n gweithredu ym mhob carchar yng Nghymru a Lloegr, a phob cyfleuster cadw mewnfudo ledled y DU.

Aelodau IMB yw llygaid a chlustiau’r cyhoedd, a benodwyd gan weinidogion i gyflawni tasg hanfodol: monitro carchardai a chadw mewnfudo yn annibynnol. Maen nhw’n adrodd a yw’r unigolion sy’n cael eu cadw yno yn cael eu trin yn deg ac yn ddrugarog ac a yw carcharorion yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt i newid eu bywydau. Gall hyn wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau’r rhai sy’n cael eu cadw yn y cyfleusterau hyn.

I ddarganfod mwy am y rôl a’r cyfleoedd presennol, dewch i ymweld â’n stondin!

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.