Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Yr Asiantaeth Swyddfa Brisio (VOA) yw arbenigwyr prisio eiddo y sector cyhoeddus. Rydym yn rhoi’r cyngor eiddo sydd ei angen i’r llywodraeth i gefnogi trethi a budd-daliadau. Mae hyn yn cynnwys ardrethi busnes, treth gyngor, lwfansau tai, prisiadau statudol a chyngor ar eiddo ar draws y sector cyhoeddus.

Mae ein gwaith yn hanfodol i gasglu dros £60 biliwn o refeniw sy’n mynd yn ôl i gymunedau, gan gyffwrdd â phob dinesydd a phob busnes ledled Cymru a Lloegr.

Rydym yn un o gyflogwyr mwyaf o syrfewyr yn y DU, ac rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd mewn llawer o broffesiynau eraill gan gynnwys rolau cyflawni gweithredol mewn gwasanaethau cwsmeriaid a gweinyddu busnes.

Rydym yn casglu data eiddo sy’n cefnogi gwaith adrannau eraill: e.e. rydym yn cyfrannu at Fynegai Prisiau Defnyddwyr yr SYG; yn llywio gwaith DESNZ i wneud eiddo’n fwy effeithlon o ran ynni: yn helpu’r DWP i wirio hawliadau am fudd-dal tai; ac yn darparu gwybodaeth ar gyfer menter Ailyswiriant Llifogydd Defra.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.