Penodwyd Syr Chris Wormald yn Ysgrifennydd y Cabinet a Phennaeth y Gwasanaeth Sifil ym mis Rhagfyr 2024.
Cyn hyn bu’n gwasanaethu fel Ysgrifennydd Parhaol yn yr Adran Iechyd (bellach yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol). Mae hefyd wedi gwasanaethu fel Ysgrifennydd Parhaol yn yr Adran Addysg.
Ymunodd Syr Chris â’r Gwasanaeth Sifil yn 1991 fel ymgeisydd ar gynllun datblygu cyflym yn yr Adran Addysg a Gwyddoniaeth (ar y pryd). Mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi ar bolisi addysg, gan gynnwys cyfnodau fel Prif Ysgrifennydd Preifat i’r Ysgrifennydd Gwladol, yn ogystal â bod yn yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (bellach y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol) fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Leol ac Adfywio. Mae hefyd wedi gweithio mewn rolau yn Swyddfa’r Cabinet yn y gorffennol gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Diwygio Gwasanaeth Cyhoeddus, Pennaeth yr Ysgrifenyddiaeth Economaidd a Domestig a Chyfarwyddwr Cyffredinol yn Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog.
