Dame Sarah Healey DCB CVO

Y Fonesig Sarah Healey DCB CVO

Ysgrifennydd Parhaol, y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol

Penodwyd y Fonesig Sarah Healey yn Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) ar 7 Chwefror 2023.

Cyn hyn, bu’n Ysgrifennydd Parhaol yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) o 2019 a chyn hynny bu’n gweithio yn Swyddfa’r Cabinet lle roedd hi’n Gyfarwyddwr Cyffredinol yn goruchwylio datblygu a gweithredu polisi economaidd a domestig ar ôl dwy flynedd a hanner yn gweithio ar drafodaethau a pharatoadau ar gyfer y DU i adael yr UE. Cyn hynny, roedd Sarah yn Gyfarwyddwr Cyffredinol yn DCMS, lle arweiniodd ar integreiddio’r holl gyfrifoldebau digidol i’r sefydliad, Cyfarwyddwr Pensiynau Preifat yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ac yn Gyfarwyddwr Cyllido Addysg a Strategaeth yn yr Adran Addysg.

Ymunodd Sarah â’r gwasanaeth sifil yn 2001 i weithio yn Uned Strategaeth y Prif Weinidog. Mae ganddi raddau o Goleg Magdalen, Rhydychen, a’r LSE.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.