Daeth James Bowler yn Ysgrifennydd Parhaol Trysorlys EF ym mis Hydref 2022.
Cyn hyn, gwasanaethodd James fel Ysgrifennydd Parhaol yr Adran Masnach Ryngwladol (DIT), a chyn hynny, gwasanaethodd fel Ail Ysgrifennydd Parhaol Swyddfa’r Cabinet yn arwain y Tasglu COVID o fis Hydref 2020. Yn y rôl hon, roedd yn gyfrifol am reoli ac arwain y tasglu a wnaeth nodi strategaeth y llywodraeth i fynd i’r afael â’r pandemig a’i effeithiau. Cyn hynny gwasanaethodd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Polisi, Cyfathrebu a Dadansoddi yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, 2020.
Am lawer o’i yrfa yn y gwasanaeth sifil, mae James wedi gweithio yn y Trysorlys. Gwasanaethodd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwariant Cyhoeddus (2017 i 2020), Cyfarwyddwr Cyffredinol Trethi a Lles (2015 i 2017) a Chyfarwyddwr Strategaeth, Cynllunio a Chyllideb (2012 i 2015). Ar draws y rolau hyn, goruchwyliodd feysydd polisi allweddol fel paratoi a dyrannu’r Gyllideb, gwariant a pholisi treth.
Gwasanaethodd James fel Prif Ysgrifennydd Preifat, i David Cameron a Gordon Brown fel Prif Weinidog ac i Alistair Darling a Gordon Brown fel Canghellor y Trysorlys.
Fe’i penodwyd yn Gydymaith Urdd y Baddon (CB) yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2012.
