Mae Beth Russell wedi cael ei phenodi’n ddiweddar fel Ail Ysgrifennydd Parhaol i’r Trysorlys ac wedi’i lleoli ar Gampws Economaidd Darlington.
Mae Beth wedi gweithio yn y Trysorlys ers 2000 mewn amrywiaeth o rolau polisi ar draws treth, lles a gwariant cyhoeddus. Cyn ei rôl bresennol, bu’n Gyfarwyddwr Cyffredinol Treth a Lles yn y Trysorlys a’n Gyfarwyddwr Cyffredinol yn arwain campws economaidd y Trysorlys yn Darlington.
Roedd ei rolau blaenorol yn y Trysorlys yn cynnwys Cyfarwyddwr Treth Bersonol, Lles a Phensiynau (2013-2017), Prif Ysgrifennydd Preifat i Ganghellor y Trysorlys George Osborne (2011-2013), Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Gwariant Cyffredinol (2008-2011), Dirprwy Gyfarwyddwr Trethi Amgylcheddol a Thrafnidiaeth (2005-07) ac Ysgrifennydd Areithiau Gordon Brown pan oedd yn Ganghellor (2001-2005) a’n Prif Weinidog (2007-2008). Dechreuodd Beth ei gyrfa yn yr Adran Nawdd Cymdeithasol fel cynghorydd polisi ar les (1996-2000).
