Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yw swyddfa weithredol Awdurdod Ystadegau’r DU. Dan arweiniad yr Ystadegydd Cenedlaethol, Syr Ian Diamond, hwn yw sefydliad ystadegol cenedlaethol y DU a’r cynhyrchydd ystadegau swyddogol mwyaf.

Mae’r ONS yn darparu ystadegau annibynnol, o ansawdd uchel a pherthnasol er lles y cyhoedd, wrth arwain y ffordd ar y llwyfan rhyngwladol. Mae ein hystadegau a’n dadansoddiad yn dystiolaeth hollbwysig ar gyfer gwneud penderfyniadau gan lywodraeth ganolog a lleol, y gwasanaeth iechyd, busnesau, elusennau a chymunedau ledled y DU, yn ogystal ag hysbysu’rtrafodaeth gyhoeddus. Ein prif gyfrifoldebau yw casglu, dadansoddi a lledaenu ystadegau am economi, cymdeithas a phoblogaeth y DU.

Mae’r ONS yn arwain cysylltu data ar draws y llywodraeth i alluogi penderfyniadau cyflymach, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a gafael ar gyfleoedd a heriau technolegau newydd (megis deallusrwydd artiffisial a modelau iaith mawr) i lunio a chefnogi systemau dadansoddol ac ystadegol ffyniannus ar gyfer y dyfodol.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.