Gwneud cais i wirfoddoli
Gyda disgwyl i filoedd o weision sifil fynychu pob un o’r digwyddiadau, mae angen cymorth rhai gwirfoddolwyr brwdfrydig arnom ar y diwrnod.
Mae hwn yn gyfle gwych i gyflawni amcan cyfraniad corfforaethol, ac mae’r presenoldeb yn cyfrif fel un o’ch pum diwrnod o gyfleoedd dysgu’r flwyddyn. Ac, wrth gwrs, bydd amser i chi wrando ar rai seminarau eich hun hefyd.
Bydd angen gwirfoddolwyr arnom i lenwi sawl rôl wahanol ar y diwrnod, pob un mor bwysig â’r llall. Bydd y cymorth sydd ei angen yn cynnwys croesawu a hebrwng siaradwyr a gwesteion, rheoli cofrestru, cefnogi sesiynau gweithdy, tywys staff i sesiynau a chyfrifoldebau meicroffon symudol, a llawer mwy. Mae disgrifiad byr o’r rolau wedi’i gynnwys yn y broses gofrestru.
Lle bo’n bosibl, byddwn yn dyrannu swyddi yn ôl dewis unigol, er efallai na fydd hyn yn bosibl ym mhob achos. Bydd gwirfoddolwyr yn cael gwybod pa rolau y byddant yn eu cyflawni cyn y digwyddiadau.
Sut i gymryd rhan
Os hoffech wirfoddoli ar gyfer digwyddiadau Llundain a Chaeredin, cofrestrwch fel gwirfoddolwr drwy glicio ar y botwm cofrestru. Y dyddiad cau i gofrestru yw 5pm dydd Gwener 8 Mai 2026.
Sut i gymryd rhan
Ar gyfer y digwyddiadau rhanbarthol, cliciwch isod i gofrestru eich diddordeb a byddwn yn cysylltu â chi pan fydd cofrestru ar gyfer gwirfoddoli yn y lleoliadau hyn yn agor. Ein nod yw agor cofrestru gwirfoddolwyr 3 mis cyn pob digwyddiad.
Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin neu cysylltwch â ni ar [email protected] – rydym yn hapus i ateb cwestiynau am arddangos, siarad neu wirfoddoli.
