Dechreuodd Cat ei gyrfa yn y cwmni cyfrifyddiaeth PwC, gan ymuno â’r Gwasanaeth Sifil yn 2013 yn gyntaf yn yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol gan symud ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr Cyllid Grŵp yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder gan oruchwylio pob agwedd ar reoli ariannol a chefnogi rhaglenni diwygio carchardai, diwygio llysoedd a thrawsnewid. Yn 2017, ymunodd Cat â Bwrdd y Weinyddiaeth Amddiffyn fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Cyllid. Yn y rôl hon, hi oedd y prif ymgynghorydd ariannol i weinidogion, y Bwrdd Amddiffyn a’r Swyddog Cyfrifyddu ac arweiniodd y swyddogaethau cyllid, masnachol a dadansoddol ar draws Amddiffyn. Yn ystod y cyfnod hwn, arweiniodd Cat y gwaith o ddiwygio Pryniant a Chaffael Amddiffyn fel rhan o’r Rhaglen Moderneiddio Amddiffyn ac chychwynnodd y Rhaglen Gwella Ariannol. Arweiniodd Cat oruchwyliaeth y portffolio Amddiffyn, ac roedd yn Hyrwyddwr Hil ar gyfer yr Adran.
Ymunodd Cat â Thrysorlys EF yn 2020 fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwariant Cyhoeddus. Cymerodd rôl Ysgrifennydd Parhaol Dros Dro ym mis Medi 2022, ac ym mis Hydref 2022 fe’i penodwyd yn Ail Ysgrifennydd Parhaol. Yn y rôl hon, goruchwyliodd Cat holl wariant cyhoeddus y llywodraeth, yn ogystal â pholisi diogelwch rhyngwladol a chenedlaethol ar gyfer yr adran. Cyfunodd hyn â swyddi fel pennaeth Swyddogaeth Gyllid y Llywodraeth a Chadeirydd y Grŵp Arweinyddiaeth Gyllid dros y Llywodraeth.
Penodwyd Cat yn Brif Swyddog Gweithredu ar gyfer y Gwasanaeth Sifil ac yn Ysgrifennydd Parhaol i Swyddfa’r Cabinet yn 2024. Yn ogystal â’i rôl adrannol yn arwain Swyddfa’r Cabinet fel ei Phrif Ysgrifennydd Parhaol, mae hi’n gyfrifol am sicrhau perfformiad uchel ac effeithlonrwydd system y Llywodraeth, gan gydweithio’n agos ag Ysgrifenyddion Parhaol eraill i foderneiddio a gwella’r Gwasanaeth Sifil. Mae hi’n cadeirio Bwrdd y Gwasanaeth Sifil a Bwrdd Gweithrediadau’r Gwasanaeth Sifil.
Y tu allan i’r gwaith mae Cat yn byw yn Kent North Downs, yn mwynhau rhedeg, beicio a cherdded y ci gyda’i gwraig Ruth
