Daeth Angela yn Ddirprwy Brif Weithredwr Cyllid a Thollau EF (CThEF) ac yn Ail Ysgrifennydd Parhaol ym mis Awst 2020. Mae Angela yn weithiwr Gweithrediadau proffesiynol gyda 30 mlynedd o brofiad o ddarparu gwasanaethau, trawsnewid a newid yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
Ymunodd Angela â’r Gwasanaeth Sifil yn 2009 i gyflenwi diwygiadau mewn Cynhaliaeth Plant. Ar ôl pedair blynedd fel Cyfarwyddwr yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, gan arwain darpariaeth a thrawsnewid gwasanaethau, symudodd Angela i CThEF yn 2017 a daeth yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Cyn ymuno â’r Gwasanaeth Sifil, bu Angela yn gweithio mewn nifer o rolau gweithredol, gwerthu a marchnata yn Aviva plc a’i gwmnïau etifeddiaeth.
